Cymryd Rhan
Galwad Agored:
Byddwch yn rhan o’r dathliad gyda ni a rhowch eich gwaith celfyddydol chi ar fap Parc Cenedlaethol Eryri.
Dyma alwad agored i artistiaid o bob cyfrwng i rannu eu gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan Eryri – boed yn farddoniaeth, ffotograffiaeth, dawns, cerddoriaeth, cerflunio, paentiadau, animeiddio, tecstiliau, crochenwaith, ffilm… mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!
Beth fyddwn ni angen gennych chi ar gyfer y map?
- Delwedd neu linc i ffilm/sain o ansawdd uchel neu ddogfen ysgrifenedig.
- Eich enw chi a teitl y gwaith (os oes)
- Paragraff amdanoch chi ac am y gwaith rydych yn ei ddanfon sydd wedi ei ysbrydoli gan Eryri. Gall gynnwys maint a chyfrwng y darn.
- Nodi lleoliad map y gwaith ofewn ffiniau Eryri. (cod post neu rif OS )
Danfonwch i Elen.Roberts@eryri.llyw.cymru neu fel arall lawrlwythwch yn uniongyrchol isod.
*Drwy ddanfon yr uchod byddwch yn rhoi caniatâd i Barc Cenedlaethol Eryri rannu eich gwaith yn gyhoeddus ar y map rhithiol ar y wefan yma a chysylltu gyda chi os bydd angen. Edrychwn ymlaen at rannu eich gwaith.