Croeso i ddathliad celfyddydol Eryri’n 70.

Mae Eryri wedi ysbrydoli artistiaid o bob math ers cenedlaethau drwy ysgogi cwestiynau, darganfod a meddwl am orffennol, presennol a dyfodol y parc. Mae’r wefan hon wedi ei greu i ddathlu rhai o dalentau celfyddydol Eryri yn rhan o ddathliadau 70 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Eryri. Y map yw canolbwynt y wefan hon, sydd yn eich galluogi i ddewis lleoliad neu artist i weld eu gwaith.

Comisiynwyd bardd Cenedlaethol Cymru a’r Prifardd Ifor ap Glyn gerdd i ddathlu Eryri’n 70 ac yna ymatebodd artistiaid amrywiol i’r gerdd honno a rhinweddau’r Parc. Yn eu plith paentiad gan Lisa Eurgain Taylor, giât gan Joe Roberts, gosodiad celf amgylcheddol gan Tim Pugh; Cân gan Owain Roberts ac Eve Goodman; Ffilm Ddawns gan Angharad Harrop a Helen Wyn Pari ar y Delyn. A chomisiynwyd baton gan yr artist Miriam Jones i fynd ar daith o Ogledd i Dde Eryri ar gyfer Pen-blwydd y Parc ar yr 18fed o Hydref.

Edrychwch yn nol ar waith hanesyddol celfyddydol sydd wedi ei ysbrydoli gan Eryri wedi ei guradu i’r map gan yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Darganfyddwch waith artistiaid y dyfodol drwy ymateb creadigol myfyrwyr Cwrs Celf Sylfaen Grŵp Llandrillo Menai Bangor a chwrs UAL Lefel 3 Diploma mewn Celf a Dylunio Grwp Llandrillo Menai Dolgellau. Mewn cydweithrediad gyda Pontio, Prifysgol Bangor gwahoddwyd Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Eryri i gyfres o weithdai creadigol gan rhai o artistiaid y prosiect yn cynnwys gweithdy barddoni gydag Ifor ap Glyn; gweithdy celf gyda Lisa Eurgain Taylor; gweithdy dawns a cherdd gydag Angharad Harrop a Helen Wyn Pari a gweithdy drama gan Mared Elliw Huws o Pontio yn holi ‘Pwy yw Eryri?’ Bydd hefyd gweithdai dawns pellach gyda Angharad Harrop a Helen Wyn Parri mewn cydweithrediad gyda chyngor Conwy a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Rydym yn eich gwahodd chi – artistiaid heddiw i fod yn rhan o’r dathliad hefyd drwy ddilyn y galwad agored i rannu eich creadigrwydd chi ar y map.

70

Diolchiadau:

Dymunai Parc Cenedlaethol Eryri ddiolch i bawb sydd wedi bod yn nghlwm a’r prosiect, yn staff y Parc, artistiaid, unigolion, tirfeddianwyr, busnesau a sefydliadau gan gynnwys Diolch i…

  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Grwp Llandrillo Menai
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Pontio, Prifysgol Bangor
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol