AM ERYRI 70
Mae prosiect Eryri 70 yn ddathliad o 70 mlynedd. Mae Eryri wedi ysbrydoli artistiaid o bob math ers cenedlaethau drwy ysgogi cwestiynau, darganfod a meddwl am orffennol, presennol a dyfodol y parc. Mae’r wefan hon wedi ei greu i ddathlu rhai o dalentau celfyddydol Eryri yn rhan o ddathliadau 70 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Eryri. Y map yw canolbwynt y wefan hon, sydd yn eich galluogi i ddewis lleoliad neu artist i weld eu gwaith.
Comisiynwyd bardd Cenedlaethol Cymru a’r Prifardd Ifor ap Glyn gerdd i ddathlu Eryri’n 70 ac yna ymatebodd artistiaid amrywiol i’r gerdd honno a rhinweddau’r Parc.
